Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, iʼw cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Partneriaeth”) a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Asesiadau Poblogaeth”).

Mae’r Rheoliadau Partneriaeth wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Mae rheoliad 1 (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli) wedi ei ddiwygio i ddiffinioʼr term “pobl hŷn”.

Mae rheoliadau 5 a 6 (byrddau partneriaeth rhanbarthol, trefniadau partneriaeth) wedi eu diwygio yn unol âʼr newidiadau a wnaed i enw a ffin Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a wnaed gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Newid Ardaloedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019; a’r newidiadau a wnaed i enw byrddau partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin a Chwm Taf.

Mae rheoliad 11 (aelodaeth oʼr byrddau partneriaeth rhanbarthol) wedi ei ddiwygio i bennu isafswm nifer yr aelodau sy’n ofynnol ar y bwrdd partneriaeth rhanbarthol ac i sicrhau bod cynrychiolwyr o’r sector tai a’r sector addysg.

Mae rheoliad 12 (adroddiadau) wedi ei ddiwygio i ychwaneguʼr gofyniad i fyrddau partneriaeth gyflwyno eu hadroddiadau erbyn 30 Mehefin fan bellaf.

Mae rheoliad 19 (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun) wedi ei ddiwygio i’w gwneud yn ofynnol i gyrff partneriaeth sefydlu a chynnal cronfa gyfun ranbarthol wrth arfer eu swyddogaethau o ran lleoedd mewn cartrefi gofal i bobl hŷn a’u swyddogaethau cymorth i deuluoedd. Mae’r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol wneud cyfraniad ariannol at y gronfa gyfun ranbarthol.

Maeʼr Rheoliadau Asesiadau Poblogaeth wedi eu diwygio yn unol âʼr newidiadau a wnaed i enw a ffin Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Abertawe gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Newid Ardaloedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, iʼw cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

 

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                                           ***

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 166(1)(b), (3)(a), (c) a (d), (4)(a) ac (c), 167(3), 168(2)(a) ac (e) a 196(2)(a) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Gosodwyd drafft oʼr Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) oʼr Ddeddf ac feʼi cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.

(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliadau Asesiadau Poblogaeth” (“the Population Assessment Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015([2]);

ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015([3]).

Diwygiadau i’r Rheoliadau Partneriaeth

2. Mae’r Rheoliadau Partneriaeth wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.

Dehongli

3. Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), ym mharagraff (4) mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y lle priodol—

“ystyr “ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol” (“regional partnership board areas”) yw pob un o’r priod ardaloedd y mae’n ofynnol i gyrff partneriaeth ymrwymo i drefniadau partneriaeth ynddynt o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

ystyr “pobl hŷn” (“older people”) yw personau sy’n 65 oed neu drosodd;”.

Byrddau partneriaeth rhanbarthol

4. Yn rheoliad 5 (trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Baeʼr Gorllewin)—

(a)     yn y pennawd, yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg”;

(b)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”, a

                          (ii)    hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;

(c)     ym mharagraff (2), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg”;

(d)     ym mharagraff (3), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg”.

5. Yn rheoliad 6 (trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf)—

(a)     yn y pennawd, yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg”;

(b)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”, a

                          (ii)    ar ôl “Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf” mewnosoder “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”,

(c)     ym mharagraff (2), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg”;

(d)     ym mharagraff (3), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg”.

Aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol

6.(1)(1) Mae rheoliad 11 (aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)     ym mharagraff (1)(d), o flaen “cynrychiolydd” mewnosoder “o leiaf un”;

(b)     ym mharagraff (1)(e), yn lle “dau” rhodder “o leiaf ddau”;

(c)     ym mharagraff (1)(g), o flaen “un person” mewnosoder “o leiaf”;

(d)     ym mharagraff (1)(h), o flaen “un person” mewnosoder “o leiaf”;

(e)     ym mharagraff (1)(h), yn lle “.” rhodder—

“;

(i)  o leiaf un uwch-swyddog awdurdod lleol syʼn gyfrifol am dai gan gynnwys y cyfrifoldeb am fuddsoddiad cyfalaf mewn tai, neu gysylltiadau â’r buddsoddiad cyfalaf hwnnw, yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(j)   o leiaf un person syʼn cynrychioli landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(k)   o leiaf un uwch-swyddog awdurdod lleol sy’n gyfrifol am addysg yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(2) Ym mharagraff (4) mewnosoder y diffiniad a ganlyn yn y lle priodol—

 “ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff Cymreig sydd wedi ei gofrestru â Gweinidogion Cymru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996([4]);.

Adroddiadau

7. Yn rheoliad 12 (adroddiadau), ym mharagraff (3)—

(a)     yn lle “wedi hynny” rhodder “o fis Ebrill 2019”;

(b)     ar ôl “yn flynyddol” mewnosoder “erbyn 30 Mehefin fan bellaf”.

Rhannu gwybodaeth

8. Yn rheoliad 13 (rhannu gwybodaeth), ym mharagraff (1), yn lle “gan y” rhodder “yn unol âʼr”.

Sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd

9. Yn rheoliad 16 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd), ym mharagraff (1), yn lle “trefniadau partneriaeth” rhodder “ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol”.

Cronfeydd cyfun rhanbarthol

10. Yn lle rheoliad 19 (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun) rhodder—

“Sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun

19.—(1) Rhaid i gyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol sefydlu a chynnal—

(a)   cronfa gyfun ranbarthol mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau llety cartref gofal i bobl hŷn, a

(b)   cronfa gyfun mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau cymorth i deuluoedd.

(2) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, sy’n dechrau â’r flwyddyn ariannol sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2019, rhaid i bob corff partneriaeth wneud cyfraniad at y gronfa gyfun ranbarthol mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau llety cartref gofal i bobl hŷn sy’n gymesur â’i wariant blynyddol disgwyliedig ar leoedd mewn cartrefi gofal i bobl hŷn.

(3) Nid oes dim byd yn y rheoliad hwn sy’n atal cyrff partneriaeth rhag sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun neu gronfeydd cyfun rhanbarthol ar gyfer cyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a bennir yn Atodlen 1.

(4) Os yw unrhyw rai o’r cyrff partneriaeth yn penderfynu arfer eu swyddogaethau ar y cyd mewn ymateb i’r asesiad a gynhelir o dan adran 14 o’r Ddeddf, rhaid iddynt ystyried a yw’n briodol sefydlu a chynnal cronfa gyfun([5]).

(5) At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “cartref gofal” (“care home”) yw mangre y darperir gwasanaeth cartref gofal([6]) ynddi, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([7]), yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu drosodd;

ystyr “cronfa gyfun ranbarthol” (“regional pooled fund”) yw un gronfa gyfun y mae pob un o’r cyrff partneriaeth ar gyfer ardal bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn gwneud cyfraniadau ati;

ystyr “swyddogaethau llety cartref gofal i bobl hŷn” (“care home accommodation functions for older people”) yw—

(a)   swyddogaethau awdurdod lleol o dan adrannau 35 ac 36 o’r Ddeddf, pan fo’r rhain yn cael eu harfer mewn perthynas â phobl hŷn i ddarparu llety mewn cartrefi gofal;

(b)   swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([8]) pan fônt yn cael eu harfer mewn perthynas â phobl hŷn—

                       (i)  y mae arnynt angen sylfaenol am ofal iechyd syʼn cael ei ddiwallu drwy drefnu darparu llety ynghyd â nyrsio mewn cartrefi gofal, neu

                      (ii)  nad oes arnynt angen sylfaenol am ofal iechyd ond y mae arnynt anghenion na ellir eu diwallu ond drwyʼr awdurdod lleol yn trefnu darparu llety ynghyd â nyrsio mewn cartref gofal.”

Diwygiadau iʼr Rheoliadau Asesiadau Poblogaeth

11. Maeʼr Rheoliadau Asesiadau Poblogaeth wedi eu diwygio yn unol âʼr rheoliad a ganlyn.

Yr Atodlen ar gyfer trefniadau partneriaeth penodedig

12. Yn yr Atodlen (trefniadau partneriaeth penodedig), maeʼr tabl ar gyfer trefniadau partneriaeth wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)     yn y golofn gyntaf (bwrdd iechyd lleol), yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”;

(b)     yn yr ail golofn gyfatebol (awdurdod lleol), ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;

(c)     yn y golofn gyntaf (bwrdd iechyd lleol), yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”;

(d)     yn yr ail golofn gyfatebol (awdurdod lleol), ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf mewnosoder “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”.

 

 

 

 

Julie Morgan

 

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])   2014 dccc 4.

([2])   O.S. 2015/1495 (Cy. 167).

([3])   O.S. 2015/1989 (Cy. 299).

([4])   1996 p. 52.

([5])   Mae i “cronfeydd cyfun” yr un ystyr ag yn adran 167(4) o’r Ddeddf.

([6])   Diffinnir “gwasanaeth cartref gofal” yn Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 fel y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal mewn man yng Nghymru, i bersonau oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen.

([7])   2016 dccc 2.

([8])   2006 p. 42.